Costau byw

Costau byw

Roedd hon yn sesiwn thematig a barhaodd am awr a hanner ac a gynhaliwyd mewn dau gyfarfod – y naill ar 31 Mawrth 2022 a’r llall ar 24 Mawrth 2023 – pan oedd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog am gostau byw cynyddol a sut mae'r llywodraeth yn ymateb.

 

Cyhoeddwyd yr erthygl Ymchwil gyntaf yn 2022 a chyhoeddwyd yr ail erthygl Ymchwil yn 2023. Mae'r rhain yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y materion y gellid bod wedi'u trafod yn y cyfarfod.

 

Math o fusnes: Craffu ar Weinidogion

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/03/2022