P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Marie Curie & MNDA, ar ôl casglu cyfanswm o 2,195 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn marw yng Nghymru wedi colli’r cyfle i gael gofal lliniarol a diwedd oes.

 

Roedd y cynllun gofal diwedd oes ar gyfer Cymru yn gweithio i drwsio hyn, ond bydd yn dod i ben ym mis Mawrth. Ar hyn o bryd, nid oes cynllun newydd yn barod i gymryd ei le.

 

Mae arnom angen brys am linell amser, cyllid a staff i gyflawni cynllun newydd.

Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan heb unrhyw beth i gymryd ei le. Llofnodwch heddiw a helpwch ni i wneud yn siŵr nad yw teuluoedd yng Nghymru yn cael eu gadael mewn twll.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal lliniarol a diwedd oes yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, ond mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau ein bod yn gweld gweithredu priodol.

 

Bydd strwythurau llywodraethiant clinigol y systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu had-drefnu’n fuan. Ym mis Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer fframwaith clinigol newydd a Gweithrediaeth newydd ar gyfer GIG Cymru; mae’r fframwaith clinigol yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu Rhaglen benodedig ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a Datganiad Ansawdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes. Y bwriad yw i’r trefniadau hyn gymryd lle y Cynllun Cyflawni Diwedd Oes cyfredol, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Mae Rhaglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i’w chroesawu, ond mae seilwaith heb adnoddau digonol a phersonél cyfyngedig i’r rhaglen, ynghyd â’r pandemig, wedi effeithio ar y gallu gyflwyno’r rhaglen newydd yn ôl amserlen briodol. Gyda diwedd mis Mawrth yn prysur nesáu a heb Raglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i’w gweld, mae’n edrych fel na fydd gan Gymru gynllun Gofal Lliniarol a Diwedd Oes am y tro cyntaf ers degawd.

 

woman and man holding hands

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebwyr yn croesawu ymateb y Gweinidog ac yn falch bod ffrydiau gwaith a grwpiau arbenigol wedi'u sefydlu. Er bod gan y deisebwyr gwestiynau pellach ar y mater, maent yn cydnabod eu bod yn mynd y tu hwnt i gwmpas y ddeiseb. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei ymgysylltiad parhaus.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/04/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2022