Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Iaith Arwyddion Prydain

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Iaith Arwyddion Prydain

Cyflwynwyd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (y Bil BSL) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Mehefin 2021.

 

Mae teitl hir y Bil BSL yn nodi mai ei ddiben yw “i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith Cymru, Lloegr a’r Alban; i’w gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno adroddiad ar hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain gan adrannau gweinidogol y Llywodraeth; a’i gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag Iaith Arwyddion Prydain.”

 

Mae'r Bil BSL yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iaith Arwyddion Prydain yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2022.


Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2022

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 126KB) ar y Bil BSL gerbron y Senedd ar 8 Mawrth 2022.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 26 Mai 2022 (PDF 41.8KB).

 

Ar 22 Mawrth 2022, cytunodd (PDF 49.7KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 26 Ebrill 2022.

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 137KB) ar 25 Ebrill 2022.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 25 Ebrill 2022 (PDF 137KB).

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2022