Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu.

 

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu fis Chwefror 2022. Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cydweithio mewn perthynas â safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu y tu allan i'r UE.

 

Ar 18 Mawrth 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am ragor o wybodaeth am y fframwaith.

 

Ar ôl ystyried yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ar 14 Mehefin 2022 yn gwneud argymhellion. Darparodd y Dirprwy Weinidog ymateb dros dro ar 28 Gorffennaf 2022, yn nodi na allai ymateb i’r argymhellion nes bod holl ddeddfwrfeydd y DU wedi cwblhau eu gwaith craffu ar y fframwaith.

 

Mae mwy o wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael ar y dudalen we’r fframweithiau cyffredin.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2022

Dogfennau