Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwnaeth Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus y Bedwaredd a’r Bumed Senedd gynnal gwaith sylweddol yn edrych ar y trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Cytunodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Chweched Senedd i ailedrych ar y materion hyn i drafod â’r Bwrdd Iechyd y gwersi a ddysgwyd, cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a’r gwaith o ran rhoi argymhellion y Pwyllgor blaenorol sy'n weddill ar waith.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd ar 9 Mawrth 2022. Yn dilyn hynny, ysgrifennodd y Cadeirydd:

 

·         ar 31 Mawrth 2022 at y Bwrdd Iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth; ac

·         ar 18 Mai 2022 at Lywodraeth Cymru ynghylch Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru.

 

Daeth ymatebion i law gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru:

 

·         ar 29 Ebrill 2022 gan y Bwrdd Iechyd;

·         ar 20 Mehefin 2022 gan Lywodraeth Cymru.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymateb manwl gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ar 25 Mai 2022 a’r ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru yn ei gyfarfod ar 6 Gorffennaf 2022. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu ac ailedrych ar gynnydd y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â nifer o faterion yn nhymor yr hydref 2022.

 

Gohiriodd y Pwyllgor y gwaith hwn yn dilyn barn amodol ar gyfrifon 2021-22 y Bwrdd Iechyd a’r gwallau sylweddol a nodwyd ynddynt gan yr Archwilydd Cyffredinol, sy’n destun ymchwiliad pellach.

 

Yn ei gyfarfod ar 10 Tachwedd 2022, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Caiff y dystiolaeth hon ei defnyddio i lywio sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol gyda swyddogion y Bwrdd Iechyd.

 

Ar 23 Chwefror 2023, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad budd y cyhoedd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd, a drafodwyd gan y Pwyllgor yn breifat yn ei gyfarfod ar 30 Mawrth 2023.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfod cydamserol â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 25 Mai 2023 i drafod materion yn y Bwrdd Iechyd yn dilyn llythyr ar y cyd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 19 Ebrill 2023 a oedd yn tynnu sylw at bryderon y ddau Bwyllgor.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn sesiwn breifat gan swyddogion y Bwrdd Iechyd ar 5 Gorffennaf 2023 i drafod materion yn ymwneud â’u Cyfrifon 2020/21. Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â'r dystiolaeth a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf ond nododd nifer o feysydd i roi sylw iddynt yn y dyfodol.

 

Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 20 Tachwedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer o ffrydiau gwaith.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2022

Dogfennau