P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Hooper, ar ôl casglu cyfanswm o 1,619
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn rhoi hwb i gynhyrchiant a lles
gweithwyr.
Ar ôl treialon llwyddiannus o wythnos waith fyrrach yng Ngwlad yr Iâ – heb
ostyngiad mewn cyflogau – mae llywodraethau yn yr Alban, Iwerddon a Sbaen i gyd
yn datblygu eu cynlluniau peilot eu hunain ar gyfer wythnos waith pedwar
diwrnod, a fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf. Mae gwaith o ddifrif yn cael ei
wneud i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad Belg, Seland
Newydd, yr Almaen a Siapan hefyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon
wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Pan dreialodd Microsoft wythnos pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflogau
yn eu swyddfa yn Japan, cafwyd cynnydd o 40 y cant mewn cynhyrchiant. (https://www.theguardian.com/technology/2019/nov/04/microsoft-japan-four-day-work-week-productivity
)
Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, roedd 55 y cant o'r holl
ddiwrnodau salwch a gymerwyd y llynedd yn ganlyniad uniongyrchol i straen,
iselder neu orbryder mewn perthynas â gwaith. Byddai symud i wythnos waith
pedwar diwrnod yn arwain at leihad dramatig mewn problemau iechyd meddwl yng
Nghymru.
Canfu astudiaeth gan y sefydliad amgylcheddol Platform London y byddai
cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflogau yn arwain at
leihad o 127 miliwn o dunelli mewn allyriadau carbon y DU, gostyngiad o fwy nag
20 y cant. (https://www.theguardian.com/environment/2021/may/27/four-day-working-week-would-slash-uk-carbon-footprint-report)
Wythnos waith pedwar diwrnod yn ‘llwyddiant ysgubol’ yng Ngwlad yr Iâ https://www.bbc.com/news/business-57724779.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/02/2022
Dogfennau