Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
Ar 1 Tachwedd
2021, cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sesiwn dystiolaeth archwiliadol ar
gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Daeth y sesiwn ar
ôl adroddiad
a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd â’r bwriad o ddatblygu dull
cliriach o sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hystyried a'u
diogelu'n llawn yng Nghymru.
Fel agwedd
allweddol ar ei waith, bydd y Pwyllgor yn parhau i ddychwelyd at y materion hyn
drwy gydol y Chweched Senedd.
Ymgynghoriad
Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998
Ar 16 Rhagfyr
2021, cafodd y Pwyllgor lythyr
gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder,
Dominic Raab AS, ynghylch ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynigion i ddiwygio
Deddf Hawliau Dynol 1998 ac i ddeddfu ar gyfer Bil Hawliau.
Ymatebodd
(PDF 140KB) y Pwyllgor i'r Arglwydd Ganghellor ar 22 Mawrth 2022.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2022
Dogfennau