Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Inquiry5

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/JUM9VOwOwgE

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ysgrifenedig (PDF 1,911KB) a'i adroddiad fideo Mae’n effeithio ar bawb – Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ar 13 Gorffennaf 2022.

 

Ar 8 Medi cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 404KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 26 Hydref 2022.

 

 

 

A person sitting on the floor

Description automatically generated with low confidence

 

Cefndir yr ymchwiliad

 

Mae aflonyddu rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael cryn dipyn o sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Sefydlwyd mudiad Everyone’s Invited i dynnu sylw at ddiwylliant trais rhywiol, ac i’w ddileu, drwy empathi, trugaredd a dealltwriaeth. Mae gwefan Everyone’s Invited yn rhoi llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a'u profiadau yn ddienw. Yn ôl y BBC ym mis Mehefin 2021, mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi eu rhestru ar y wefan.

 

Ar ôl hynny, gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i Estyn gynnal adolygiad o ddiwylliant a phrosesau mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad Estyn ar 8 Rhagfyr 2021.

 

Ar 13 Rhagfyr 2021, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal ymchwiliad i aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar 20 Ionawr 2022, a’r dull o gasglu tystiolaeth ar 27 Ionawr 2022.

 

Cylch gorchwyl

 

Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr oedran ysgol a choleg. Fe wnaeth yr ymchwiliad edrych yn benodol ar y canlynol:

 

  • Maint a natur y broblem mewn lleoliadau addysg a faint o ddysgwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.
  • I ba raddau y mae’r broblem hon hefyd yn digwydd y tu allan i leoliadau addysg ffurfiol, gan gynnwys ar-lein.
  • Yr effaith ar ddysgu, iechyd meddwl a llesiant dysgwyr.
  • Yr effaith ar leoliadau addysg a staff, er enghraifft o ran disgyblaeth a’r graddau y mae aflonyddu ymhlith dysgwyr wedi cael ei ‘normaleiddio’.
  • Yr effeithiau penodol ar grwpiau penodol o ddysgwyr, er enghraifft disgyblion hŷn, merched a disgyblion LGBTQ+.
  • Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau cyfredol, a’r camau i nodi atebion a gwelliannau posibl.
  • Effeithiolrwydd rolau ystod eang o gyrff statudol mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, adrannau addysg awdurdodau lleol, unedau cyfeirio disgyblion, ac ysgolion eu hunain, a’r graddau y mae dull aml-asiantaeth yn cael ei fabwysiadu lle bo’n briodol.
  • Effeithiolrwydd yr ymateb ar y cyd ar draws holl adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, gyda ffocws ar addysg, gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch cymunedol a’r ffordd y mae’n cynnwys gwasanaethau heb eu datganoli fel yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol.
  • Effaith cynnwys ar-lein a dylanwadau ar agweddau pobl ifanc, a chyd-destun ehangach diogelwch ar-lein a deddfwriaeth bosibl yn San Steffan.
  • Y ffordd y mae ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn casglu ac yn defnyddio data am fwlio ac aflonyddu, fel sy’n berthnasol i’r mater hwn.
  • Rôl teuluoedd, rhieni, a gofalwyr, fel sy’n berthnasol i’r mater hwn.
  • Rôl y Cwricwlwm newydd i Gymru o ran datblygu agweddau iachach at faterion cydberthynas a rhywioldeb.

 

Tra bod yr ymchwiliad penodol hwn wedi canolbwyntio ar ddisgyblion oedran ysgol ac oedran coleg, gallai gwaith posibl yn y dyfodol ystyried yr effaith o fewn addysg uwch.

 

Casglu tystiolaeth

 

Dechreuodd y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

 

 

Ymgynghoriad

 

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Ebrill 2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.

 

Yn ogystal â'r ymgynghoriad ar-lein, cynhaliodd tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor arolwg ar-lein rhwng 18 Mawrth a 1 Ebrill. Roedd cwestiynau'r arolwg yn targedu pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn gofyn sut yr oeddent yn credu y gellid mynd i'r afael â mater aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o fewn a thu allan i ysgolion a cholegau. Cynhyrchwyd crynodeb (PDF 168KB) o'r themâu a ddaeth i’r amlwg. Cynhaliodd y tîm Ymgysylltu â Dinasyddion weithdy hefyd gyda 5 o fyfyriwr ffilm a theledu o Goleg Cambria, Glannau Dyfrdwy, lle buont yn archwilio'r ymatebion i'r arolwg ac yn trafod yr atebion posibl i broblem aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cafodd y canfyddiadau eu troi’n fideo.

 

Cymorth

 

Mae thema'r arolwg hwn yn bwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r elusennau canlynol:

 

Childline: 0800 1111

Meic Cymru: 0808 80 23456

Live Fear Free: 0808 80 10 800

Survivors Trust: 0808 801 0818

 

Bydd yr elusennau hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau