Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr
Inquiry3
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn cynnal ymchwiliad byr ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr.
Cefndir yr
ymchwiliad
Mae aflonyddu
rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael cryn dipyn o sylw yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Sefydlwyd mudiad
Everyone’s Invited i dynnu sylw at ddiwylliant trais rhywiol, ac i’w
ddileu, drwy empathi, trugaredd a dealltwriaeth. Mae gwefan Everyone’s Invited
yn rhoi llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a'u profiadau yn ddienw. Yn ôl y BBC ym mis
Mehefin 2021, mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi eu rhestru ar y
wefan.
Ar ôl hynny,
gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i Estyn gynnal adolygiad o ddiwylliant
a phrosesau mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad
Estyn ar 8 Rhagfyr 2021.
Ar 13 Rhagfyr
2021, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal ymchwiliad i
aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar
20 Ionawr 2022, a’r dull o gasglu tystiolaeth ar 27 Ionawr 2022.
Cylch gorchwyl
Bydd yr ymchwiliad hwn yn
canolbwyntio ar y mater o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr oed
ysgol a choleg. Ei brif ffocws fydd lleoliadau addysg eu hunain a’r cymorth y
mae ei angen ar ysgolion, colegau a sefydliadau perthnasol eraill a theuluoedd
i amddiffyn plant. Bydd yr ymchwiliad yn edrych yn benodol ar y canlynol:
- Maint a natur y broblem mewn lleoliadau
addysg a faint o ddysgwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.
- I ba raddau y mae’r broblem hon hefyd yn
digwydd y tu allan i leoliadau addysg ffurfiol, gan gynnwys ar-lein.
- Yr effaith ar ddysgu, iechyd meddwl a
llesiant dysgwyr.
- Yr effaith ar leoliadau addysg a staff, er
enghraifft o ran disgyblaeth a’r graddau y mae aflonyddu ymhlith dysgwyr
wedi cael ei ‘normaleiddio’.
- Yr effeithiau penodol ar grwpiau penodol o
ddysgwyr, er enghraifft disgyblion hŷn, merched a disgyblion LGBTQ+.
- Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau
cyfredol, a’r camau i nodi atebion a gwelliannau posibl.
- Effeithiolrwydd rolau ystod eang o gyrff
statudol mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau
cymdeithasol, adrannau addysg awdurdodau lleol, unedau cyfeirio
disgyblion, ac ysgolion eu hunain, a’r graddau y mae dull aml-asiantaeth
yn cael ei fabwysiadu lle bo’n briodol.
- Effeithiolrwydd yr ymateb ar y cyd ar draws
holl adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, gyda ffocws ar addysg,
gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch cymunedol a’r ffordd y mae’n cynnwys
gwasanaethau heb eu datganoli fel yr heddlu a’r system cyfiawnder
troseddol.
- Effaith cynnwys ar-lein a dylanwadau ar
agweddau pobl ifanc, a chyd-destun ehangach diogelwch ar-lein a
deddfwriaeth bosibl yn San Steffan.
- Y ffordd y mae ysgolion, colegau ac
awdurdodau lleol yn casglu ac yn defnyddio data am fwlio ac aflonyddu, fel
sy’n berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl teuluoedd, rhieni, a gofalwyr, fel sy’n
berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl y Cwricwlwm newydd i Gymru o ran datblygu
agweddau iachach at faterion cydberthynas a rhywioldeb.
Er bod yr
ymchwiliad penodol hwn yn canolbwyntio ar ddisgyblion oed ysgol a choleg,
gallai gwaith yn y dyfodol ystyried yr effaith ym maes addysg uwch.
Casglu
tystiolaeth
Dechreuodd y Pwyllgor
glywed tystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth am
sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad
am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar
1 Ebrill 2022. Mae'r holl ymatebion
wedi'u cyhoeddi.
Yn ogystal â'r
ymgynghoriad ar-lein, cynhaliodd tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor arolwg
ar-lein rhwng 18 Mawrth a 1 Ebrill. Roedd cwestiynau'r arolwg yn targedu pobl
ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn gofyn sut yr oeddent yn credu y gellid mynd i'r
afael â mater aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o fewn a thu allan i ysgolion
a cholegau. Cynhyrchwyd crynodeb
o'r themâu a ddaeth i’r amlwg. Cynhaliodd y tîm Ymgysylltu â Dinasyddion
weithdy hefyd gyda 5 o fyfyriwr ffilm a theledu o Goleg Cambria, Glannau
Dyfrdwy, lle buont yn archwilio'r ymatebion i'r arolwg ac yn trafod yr atebion
posibl i broblem aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cafodd y canfyddiadau eu
troi’n fideo.
Cymorth
Mae’r arolwg hwn yn
ymwneud â phwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth ar ôl llenwi’r arolwg, rydym
yn argymell y dylech gysylltu â’r elusennau canlynol:
Childline: 0800
1111
Meic Cymru: 0808
80 23456
Live Fear Free:
0808 80 10 800
Survivors Trust:
0808 801 0818
Bydd yr elusennau
hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2022
Dogfennau
- Coleg Cambria - Fideo aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion MP4 27 MB
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
PDF 168 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon - 19 Mia 2022
PDF 109 KB
Ymgynghoriadau
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (Wedi ei gyflawni)