Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
Mae Manon Antoniazzi, yn ei rôl fel Prif
Swyddog Cyfrifyddu i Gomisiwn y Senedd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y Rheolau
a'r Canllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd. Y dyddiad cau yw 17 Ionawr
2022.
Mae'r fframwaith
Safonau ar gyfer Aelodau o’r Senedd yn cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau
o’r Senedd (‘y Cod’) a Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd (‘y
Rheolau’). Cytunwyd ar God newydd yn
ystod y Bumed Senedd ar 24 Mawrth 2021, a daeth i rym ar ddechrau'r Chweched
Senedd. Mae 'Rheol 8 o’r Cod’ yn ei
gwneud yn ofynnol i Aelodau gydymffurfio â rheolau ar ddefnyddio adnoddau a
ddarperir gan Gomisiwn y Senedd, a wneir, o bryd i’w gilydd, gan Brif Swyddog
Cyfrifyddu (“y Swyddog Cyfrifyddu”) y Comisiwn.
Rôl prif swyddog
cyfrifyddu sefydliad sector cyhoeddus yw ennyn ffydd y cyhoedd yn ei ddefnydd o
adnoddau cyhoeddus. Mae'r prif swyddog cyfrifyddu’n gyfrifol am reoleidd-dra a
phriodoldeb gwariant, gwaith gwerthuso cadarn o wahanol ddulliau ar gyfer
cyflawni amcanion polisi, sicrhau gwerth am arian, rheoli risg, a rhoi cyfrif
cywir am y defnydd o adnoddau. Er mwyn cefnogi'r cyfrifoldebau hyn, mae angen trefn
sicrwydd effeithiol ar y swyddog cyfrifyddu.
Cyhoeddwyd
"Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd" am y tro
cyntaf fel dogfen annibynnol cyn etholiadau 2016 gyda chymeradwyaeth y Swyddog
Cyfrifyddu ar y pryd
Cyhoeddwyd
Rheolau diwygiedig ym mis Medi 2020, a'u nod yw rhoi mwy o eglurder ynghylch
sut y gellir defnyddio adnoddau'r Comisiwn.
Mae'r newidiadau
a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori ar hyn o bryd yn ystyried nifer o faterion a
godwyd gan yr Aelodau ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu.
Mae'r Rheolau a
Chanllawiau presennol ar gael yma: Rheolau
a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2021
Ymgynghoriadau
- Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd (Wedi ei gyflawni)