Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

Cyflwynwyd y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Mehefin 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “estyn y gwarchodaeth rhag atafaelu a fforffedu a roddir i wrthrychau diwylliannol.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fod gwelliannau i'r Bil a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod Adroddiad Tŷ'r Cyffredin, ac a dderbyniwyd gan Dŷ'r Cyffredin, yn dileu darpariaethau yn y Mesur a oedd o dan gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ni wnaeth y Senedd felly ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2021

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 109KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 10 Rhagfyr 2021

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 10 Mawrth 2022 (PDF 41KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad (PDF 129KB) ar 3 Mawrth 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 147KB) ar 3 Mawrth 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 17 Mawrth 2022.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2021

Dogfennau