Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cyllid.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w galluogi i addasu Deddfau Trethi Cymru (ac is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt) am un neu ragor o’r dibenion a ganlyn:

  • I sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru (y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a’r Dreth Trafodiadau Tir) yn cael eu codi lle byddai gwneud hynny’n mynd yn groes i rwymedigaethau rhyngwladol;
  • I warchod yn erbyn osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru;
  • I ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethisefydledig y DU (Treth Dir y Dreth Stamp neu’r Dreth Tirlenwi) sydd yn effeithio, neu a all effeithio, ar faint a delir i Gronfa Gyfunol Cymru; ac
  • I ymateb i benderfyniadau’r llysoedd/tribiwnlysoedd sydd yn effeithio, neu a all effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt.

 

Mae ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn cyfeirio at Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

 

Mae’r Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau i drethi datganoledig Cymru, gan gynnwys newidiadau i’r swm sydd angen i drethdalwyr ei dalu. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud darpariaethau a all gael effaith ôl-weithredol. Mae’r Bil hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar y ffordd y defnyddir y pŵer i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol:

  • Nad ydynt ond yn dod i rym unwaith y mae’r Senedd wedi cymeradwyo gwneud y rheoliadau hynny; neu
  • Sy’n dod i rym ar unwaith ond sydd angen cymeradwyaeth ddilynol gan y Senedd.

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 8 Medi 2022.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru.

 

¬¬¬Dyddiad Cydsyniad Brenhinol (8 Medi 2022)

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 162KB) ar 8 Medi 2022.

 

Datganiad polisi mewn perthynas ag arfer y pŵer i wneud deddfwriaeth ôl-weithredol yn Neddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

 

zzz

¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4, (13 Gorffennaf 2022)

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 60KB) a’r Cwnsler Cyffredinol (PDF, 191KB) at y Llywydd i’w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) i’r Goruchaf Lys o dan Adrannau 114, 111B neu 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 4, (12 Gorffennaf 2022)

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2022.

 

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), fel y'i pasiwyd (PDF, 115KB)

 

Datganiad y Llywydd - Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – 8 Gorffennaf 2022 (PDF, 156KB)

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 3, (10 Mehefin 2022 – 5 Gorffennaf 2022)

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 10 Mehefin 2022. Cynhaliwyd ystyriaethau Cyfnod 3 a gwaredu gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2) yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Gorffennaf 2022.

 

Ystyriwyd y Bil yn y drefn a ganlyn: Adrannau 1 – 10; Teitl hir.

 

Grwpio Gwelliannau – 30 Mehefin 2022 (PDF 89KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 30 Mehefin 2022 (PDF, 109KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 27 Mehefin 2022 (PDF, 101KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 24 Mehefin 2022 (PDF, 83KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 21 Mehefin 2022 (PDF, 82KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 22 Mehefin 2022 (PDF, 106KB)

 

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF, 123KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – 12 Gorffennaf 2022 (PDF, 177 KB)

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (27 Ebrill 2022 – 9 Mehefin 2022)

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 27 Ebrill 2022.

Cyhoeddwyd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yma.

Aeth y Pwyllgor ati i waredu’r gwelliannau yn y drefn ganlynol: Adrannau 1-8; Teitl hir.

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 1 Mehefin 2022 (PDF 169KB)

Grwpio Gwelliannau – 1 Mehefin 2022 (PDF, 93KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 31 Mai 2022 (PDF 95KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 30 Mai 2022 (PDF 115KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 26 Mai 2022 (PDF 103KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 27 Mai 2022 (PDF 368KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 27 Ebrill 2022 (PDF 88KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 28 Ebrill 2022 (424KB)

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar 9 Mehefin 2022.

 

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 118KB)

 

Newidiadau argraffu ir Bil fel yi diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 83KB)

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 704KB)

 

Datganiad drafft ar ôl-weithredu, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 324KB)

 

zzz

¬¬¬ Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2022.

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 1, (13 Rhagfyr 2021 – 26 Ebrill 2022)

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2022. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Cytunodd y Pwyllgor Cyllid ar ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 16 Rhagfyr 2021.

 

Ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad

 

Crynodeb Bil (PDF 406KB)

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

16 Rhagfyr 2021

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1

(preifat)

(preifat)

22 Rhagfyr 2021

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

2 Chwefror 2022

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

11 Chwefror 2022

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

16 Chwefror 2022

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

2 Mawrth 2022

Trafodiaeth prifat am cynnwys yr adroddiad

(preifat)

(preifat)

11 Mawrth 2022

Trafodiaeth prifat am cynnwys yr adroddiad

(preifat)

(preifat)

25 Mawrth 2022

Trafod yr adroddiad drafft

(preifat)

(preifat)

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF 1.4MB) ar 8 Ebrill 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 202KB) gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mai 2022.

 

Dogfennau

 

Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid cyn y Ddadl Egwyddorion Cyffredinol – 22 Ebrill 2022 (PDF 634KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y cais am ragor o wybodaeth – 24 Ionawr 2022  (PDF 350KB)

 

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch cost gweithredu newidiadau i’r  (PDF 104KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

14 Chwefror 2022

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF, 1.310MB) ar 8 Ebrill 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 229KB) gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mai 2022.

 

Dogfennau

 

Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad cyn y Ddadl Egwyddorion Cyffredinol – 22 Ebrill 2022 (PDF 429KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i’r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - 11 Mawrth 2022 (PDF 653KB)

 

Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - 24 Chwefror 2022 (PDF 175KB)

 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (13 Rhagfyr 2021)

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 109KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 1.2MB)

 

Datganiad y Llywydd: 13 Rhagfyr 2021 (PDF, 93KB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF, 686KB)

 

Datganiad drafft ar ôl-weithredu (PDF, 329KB)

 

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – 14 Rhagfyr 2021

 

Y Pwyllgor Busnes -Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (PDF, 41KB)

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Georgina Owen

E-bost: SeneddCyllid@senedd.cymru

 

Math o fusnes: Bil

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau