Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Cyflwynwyd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 6 Gorffennaf 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “Gwneud darpariaeth ynghylch cenedligrwydd, lloches a mewnfudo; gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr caethwasiaeth neu fasnachu pobl; darparu pŵer i Dribiwnlysoedd godi tâl ar y rhai syn ymddwyn mewn modd syn gwastraffu adnoddaur Tribiwnlys; ac ar gyfer dibenion cysylltiedig.“

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2021

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 198KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 6 Rhagfyr 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 17 Chwefror 2022 (PDF 49.6KB).

 

Yn y cyfarfod ar 25 Ionawr 2022, cytunodd (PDF 51.7KB) y Pwyllgor Busnes ar dyddiad cau newydd i bob Pwyllgor ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol a chyflwyno adroddiad arno erbyn 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 291KB) ar 15 Chwefror 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 349KB) ar 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 153KB) ar 11 Chwefror 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad (PDF 420KB) ar 14 Chwefror 2022.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2021

Dogfennau