Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)
Cyflwynwyd y Bil Rhenti Masnachol
(Coronafeirws) (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 9 Tachwedd 2021.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi mai ei ddiben “Gwneud darpariaeth i sicrhau bod rhyddhad ar gael rhag
talu rhai dyledion rhent o dan denantiaethau busnes yr effeithiwyd yn andwyol
arnynt gan y coronafeirws, drwy gymrodeddu; ac at ddibenion cysylltiedig.“
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)
yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mawrth 2022
Ar 3 Mawrth 2022,
gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 175KB).
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 156KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 3 Rhagfyr
2021.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r
Memorandwm at Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 10
Chwefror 2022 (PDF 40.1KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
143KB) ar 8 Chwefror 2022. Ymatebodd Llywodraeth
Cymru i’r adroddiad (PDF 264KB) ar 3 Mawrth 2022.
Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
ei adroddiad (105 KB)
ar 8 Chwefror 2022. Ysgrifennodd
(PDF 77KB) Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog yr Economi, i ofyn am
wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021