Craffu ar Gynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 Llywodraeth Cymru

Craffu ar Gynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 Llywodraeth Cymru

Inquiry5

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi cynllunio ar gyfer y gaeaf o ran iechyd a gofal cymdeithasol fel blaenoriaeth yn ei strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

 

Gaeaf 2022-23

 

Trafododd y Pwyllgor gynllunio ar gyfer gaeaf 2022-23 gyda’r Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol mewn sesiwn graffu gyffredinol ar 6 Hydref 2022, a’r ymateb i’r pwysau sy’n wynebu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol mewn sesiwn graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 ar 11 Ionawr 2023

 

Gaeaf 2021-22

 

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021-22.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr i gynllun gaeaf Llywodraeth Cymru, gan edrych yn benodol ar:

 

>>>> 

>>>pa mor dda y mae gwasanaethau'n ymdopi, gan gynnwys unrhyw bwyntiau pwysau a meysydd pryder penodol wrth inni symud ymhellach i'r gaeaf;

>>>effeithiolrwydd dull eleni o gynllunio ar gyfer y gaeaf; ac

>>>unrhyw wersi i'w dysgu ar gyfer y gaeaf nesaf.

<<< 

 

 

Dyma’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma:

 

Ar 10 Chwefror 2022, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gynllun Gaeaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022. Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog gyda chwestiynau dilynol. Cafwyd ymateb y Gweinidog ar 21 Mawrth 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2021

Dogfennau

Papurau cefndir