NDM7871 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM7871
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer
ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth
Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19.
2.
Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19
sy'n benodol i Gymru.
3.
Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu
erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i
bandemig COVID-19 yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi:
a)
cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families
for Justice Cymru;
b)
ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y
penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair
gwlad;
c)
bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd
y flwyddyn yn yr Alban.
2.
Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys
sylw priodol i Gymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2022