NDM7843 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM7843
Rhys ab Owen
(Canol De Cymru)
Alun Davies
(Blaenau Gwent)
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad
deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.
2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn
ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r
setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.
3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth
sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r
broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r
broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn
addas i'r diben;
b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad
deddfwriaethol;
c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r
effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y
DU.
Cefnogwyr:
Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2022