Cymru Sero Net - ystyriaeth cychwynnol

Cymru Sero Net - ystyriaeth cychwynnol

Ar 28 Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun 'Cymru Sero Net' ('y Cynllun'). Hwn yw ail gynllun datgarboneiddio statudol Llywodraeth Cymru ac mae’n canolbwyntio ar ei hail gyllideb carbon (2021 – 2025). Mae’n adeiladu ar Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a gyhoeddwyd yn 2019.

 

Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd:

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ('y Pwyllgor') sesiwn graffu ar y Cynllun gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd 2021. Defnyddiwyd y sesiwn hon i helpu i lywio blaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer tymor y Senedd hon, a pharatoi'r ffordd ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon. Ar 11 Tachwedd 2021, cyn y sesiwn graffu, ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor (PDF 450KB) i amlinellu manylion pellach ynghylch y Cynllun.

 

Tystiolaeth gan randdeiliaid:

Er mwyn llywio’r sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, fe wnaeth y Pwyllgor wahodd rhanddeiliaid i gynnig eu safbwyntiau cychwynnol ar y Cynllun.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau