Fframweithiau Cyffredin - Y Chweched Senedd

Fframweithiau Cyffredin - Y Chweched Senedd

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, cytunodd Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU – neu 'fframweithiau' – mewn meysydd polisi a lywodraethwyd ynghynt gan gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y llywodraethau neu'r deddfwrfeydd datganoledig.

 

Ar 16 Hydref 2017, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) hysbysiad (PDF, 71.8KB) a oedd yn nodi'r egwyddorion a fyddai'n sail i’r fframweithiau.

 

Ar 25 Ebrill 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Gytundeb Rhynglywodraethol (PDF, 125KB) ar Fil Ymadael yr UE (Deddf Ymadael yr UE 2018 erbyn hyn) a’r broses o sefydlu fframweithiau cyffredin. Mae'r Cytundeb yn caniatáu i ddeddfwrfeydd datganoledig ddeddfu ar unrhyw feysydd sydd o fewn eu pwerau. Fodd bynnag, roedd hefyd yn rhoi cyfyngiadau ar 24 o feysydd datganoledig, a oedd yn destun trafodaeth. Roedd y Cytundeb hefyd yn nodi’r trefniadau gwleidyddol mewn perthynas â chreu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol.

 

Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad i Senedd y DU ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â fframweithiau cyffredin, a'r defnydd o bwerau adran 12 yn Neddf 2018 i gynnal dros dro y cyfyngiadau o ran cymhwysedd datganoledig a geir yng nghyfraith bresennol yr UE. Ceir gwybodaeth am adroddiadau a osodwyd yn y Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 30B yn Adroddiadau mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir.

 

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r rhaglen fframweithiau cyffredin yn y Chweched Senedd, a bydd Pwyllgorau'r Senedd* yn trafod fframweithiau penodol sydd o fewn eu cylchoedd gwaith.

 

Bydd rhagor o wybodaeth am drafodaethau Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y rhaglen fframweithiau a fframweithiau unigol ar gael yma, ar dudalen pob Pwyllgor, ac o dan 'Materion Cysylltiedig' neu 'Cyfarfodydd Cysylltiedig'.

 

*Yn benodol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 237 KB) ar fframweithiau cyffredin ar 12 May 2023. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF 162KB) gan Lywodraeth Cymru ar 22 Mehefin 2023.

 

Gwaith y Bumed Senedd ar fframweithiau cyffredin

Ceir gwybodaeth am y gwaith a wnaed ar fframweithiau cyffredin yn ystod y Bumed Senedd yn Fframweithiau polisi cyffredin y DU – Y Bumed Senedd. Ceir gwybodaeth am adroddiadau a osodwyd yn y Bumed Senedd o dan Reol Sefydlog 30B yn Adroddiadau mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir.

Math o fusnes:

Statws: Gwrthodwyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau