Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Inquiry5

Mae’r rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau diagnostig a therapi, a thriniaeth lawfeddygol yng Nghymru, wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19.

 

Ar 7 Ebrill 2022, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch mynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros a chefnogi pobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 30 Mai 2022. Trafododd y Senedd adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mehefin 2022.

 

Ar 26 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros. Ar 29 Ebrill 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor at randdeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol i ofyn am eu safbwynt ar gynllun Llywodraeth Cymru. Ar 29 Mehefin 2022, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad wyneb yn wyneb i randdeiliaid ar ffurf preifat ac anffurfiol, i drafod cynllun Llywodraeth Cymru, a’i hymateb i adroddiad y Pwyllgor.

 

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys pum uchelgeis allweddol i leihau rhestrau aros. Mae’r Pwyllgor yn monitro cynnydd yn y gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau hynny, ac mae wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau monitro bob tymor.

 

Gwybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor

Yn benodol, dyma’r hyn a ystyriwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor:

>>>> 

>>>Y gwasanaethau sydd ar waith ar gyfer pobl sy’n aros am apwyntiadau diagnosteg a thriniaeth, yn enwedig cymorth i reoli poen.

>>>Mynediad at therapïau seicolegol a chefnogaeth emosiynol i’r rheini a allai fod yn profi pryder neu drallod o ganlyniad i amseroedd aros hir.

>>>Y cyfraniad y gall y trydydd sector ei wneud wrth ddarparu cymorth cymheiriaid a gwybodaeth i gleifion sydd ar restr aros y GIG.

>>>Pa mor effeithiol yw’r negeseuon ar gyfer y cyhoedd ac ymgysylltu â phobl ynghylch y gofynion ar y gwasanaeth a phwysigrwydd ceisio gofal yn brydlon.

>>>I ba raddau y mae anghydraddoldebau’n bodoli o ran yr ôl-groniad dewisol, o ran ardaloedd difreintiedig yn wynebu rhestrau aros anghymesur o fawr y pen o’r boblogaeth, o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

>>>Cynlluniau i adfer gofal wedi’i gynllunio y GIG yng Nghymru yn llawn.


Er mwyn archwilio’r materion hyn, mae’r Pwyllgor wedi gwneud y canlynol:

>>>> 

>>>Cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig rhwng 19 Tachwedd 2021 a 13 Ionawr 2022. Cawsom 44 o ymatebion.

>>>Cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ar 18 Tachwedd 2021, 2 Rhagfyr 2021 a 13 Ionawr 2022.

>>>Cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 10 Chwefror 2022.

>>>Cynnal cyfres o gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gwnaeth Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd y gwaith hwn ar flog y Senedd

>>>Cyhoeddwyd adroddiad a datganiad i'r cyfryngau i gyd-fynd ag ef ar 7 Ebrill 2022

>>>Ysgrifennu at randdeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol ar 29 Ebrill 2022 i ofyn am eu safbwynt ar cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros.

>>>Cynhaliwyd sesiwn anffurfiol breifat wyneb-yn-wyneb i randdeiliaid ar 29 Mehefin 2022 ynghylch cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros.

>>>Cynhaliwyd dadl ar y adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mehefin 2022.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau