Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Chweched Senedd
Inquiry5
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn gwneud gwaith parhaus ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar y
materion sydd o fewn ei gylch gwaith.
Gwaith a wnaed
hyd yn hyn:
Ø
Ar 23
Medi 2021, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ynghylch y pandemig gan Brif
Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Gynghorwr Gwyddonol ar Iechyd, a Chell Cynghori
Technegol Llywodraeth Cymru.
Ø
Ar 7
Hydref 2021, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth breifat ag arbenigwyr
academaidd ynghylch materion sy’n ymwneud â’r adferiad yn dilyn Covid-19.
Ø
Ar 13
Ionawr 2022, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amserol i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ø
Ar 10
Chwefror 2022, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amserol i’r Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ø
Ar 1
Ebrill 2022, ysgrifennodd y
Pwyllgor at Gadeirydd yr ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU a'r Prif
Weinidog ynglŷn
â chylch gorchwyl drafft
yr ymchwiliad dan sylw.
Ø
Rhwng
hydref 2021 a gwanwyn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor alwad
agored am dystiolaeth ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar iechyd
a gofal cymdeithasol yng Nghymru
*Dechreuodd y
Chweched Senedd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2021. Cynhaliwyd Ymchwiliad gyda chylch
gorchwyl tebyg gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Pumed
Senedd rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2021
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2021
Dogfennau
- Adfer yn dilyn COVID-19: academyddion: Nodyn o’r materion a drafodwyd
PDF 116 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 24 Tachwedd 2021
PDF 85 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd - 20 Ionawr 2022
PDF 309 KB
- Nodyn briffio: y diweddaraf am y Pàs COVID - Chwefror 2022
PDF 205 KB Gweld fel HTML (4) 25 KB
- Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 ledled y DU - 14 Rhagfyr 2021
PDF 361 KB
- Ymateb gan y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru ynghylch Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 ledled y DU - 19 January 2022
PDF 71 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd Ymchwiliad Covid y DU ynglŷn â chylch gorchwyl drafft Ymchwiliad Covid-19 y DU. – 1 Ebrill 2022
PDF 96 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru ynglŷn â chylch gorchwyl drafft Ymchwiliad Covid-19 y DU – 1 Ebrill 2022
PDF 72 KB
Ymgynghoriadau