Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Mae blaenraglen waith Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

Yn ei gyfarfod ar 3 Tachwedd 2021, cytunodd y Pwyllgor i strwythuro ei waith ar sail y cyfnodau bras a ganlyn:

-       Cyfnod Un: bydd yr Aelodau’n nodi lle mae tir cyffredin – neu bosibilrwydd i’w sefydlu – rhwng safbwyntiau polisi eu pleidiau gwleidyddol, mewn perthynas â diwygio’r Senedd;

-       Cyfnod Dau: ar feysydd a nodwyd yng Nghyfnod Un, casglu rhagor o wybodaeth yn ôl yr angen i’r Pwyllgor ddatblygu argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi; a

-       Cyfnod Tri: datblygu argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi.

 

Caiff diweddariadau ar waith y Pwyllgor eu cyhoeddi maes o law.

 

Bydd unrhyw ddogfennau a gyhoeddwyd eisoes yn nodi bwriadau'r Pwyllgor adeg eu cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y rhaglen yn newid ar unrhyw adeg er mwyn ymateb i ddigwyddiadau allanol.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2021