Gwarchod y dyfodol - Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio
Gwarchod y dyfodol - Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio
Cefndir
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i ofal plant a chyflogaeth rhieni: y
pandemig a thu hwnt. Mae pandemig COVID-19 wedi dod â materion yn ymwneud â
chydraddoldeb o ran rhywedd, gofal plant a chyflogaeth i'r amlwg. Bydd yr
ymchwiliad yn ceisio mynd i’r afael â'r materion hyn drwy ganolbwyntio ar sut y
gall y ddarpariaeth gofal plant greu rhwystrau i rieni, yn enwedig menywod,
sy’n ymuno â’r farchnad lafur neu’n symud ymlaen yn eu swyddi.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad yw ystyried:
- I ba raddau y mae'r ddarpariaeth gofal plant
bresennol yng Nghymru yn cefnogi rhieni’n ddigonol, yn enwedig mamau, i
gael swydd, aros yn y swydd a symud ymlaen yn y swydd, a pha newidiadau y
gallai fod eu hangen i wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal plant
wrth wneud hyn.
- Pa effaith y mae’r Cynnig Gofal Plant wedi’i
chael o ran cyflawni nod Llywodraeth Cymru o "helpu rhieni, mamau yn
arbennig, i ddychwelyd i'r gwaith neu i gynyddu'r oriau y maent yn eu
gweithio"
- Effaith diffyg argaeledd gofal plant ar
lefelau cynhyrchiant Cymru.
- Sut mae trefniadau gofal plant wedi effeithio
ar gyflogaeth rhieni yn ystod pandemig y coronafeirws, yn enwedig
mamau? Pa wersi y gellir eu
cymhwyso i roi cefnogaeth well yn ystod unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol
neu gyfyngiadau pellach.
- P'un a yw'r ddarpariaeth gofal plant a
ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddigon hyblyg i gefnogi cyflogaeth
rhieni, yn enwedig mamau, mewn gwahanol grwpiau demograffig ac o dan
wahanol amgylchiadau.
- Effaith darpariaeth gofal plant ffurfiol o
safon uchel ar leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a manteision posibl ymestyn
darpariaeth gofal plant i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
- Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu o fodelau
eraill o ddarpariaeth gofal plant sydd ar waith yng ngweddill y DU ac yn
rhyngwladol ac arferion sy’n dod i’r amlwg o ran cefnogi cyflogaeth
rhieni, ac i ba raddau y gellir trosglwyddo’r modelau hyn i gyd-destun Cymru.
- Sut y
byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol ac ymarferol
fel argaeledd gofal plant wrth ddatblygu unrhyw bolisi yn y dyfodol i
ymestyn y ddarpariaeth gofal plant.
Gosododd y
Pwyllgor ei adroddiad
ddydd Gwener 28 Ionawr 2022. Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny
Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Gwyddom fod
gwell darpariaeth gofal plant yn gyfystyr â chyfleoedd gwell i sicrhau
cydraddoldeb yn y gweithle.
“Fodd bynnag, nid
yw’r system gyfredol yn ei gwneud hi’n hawdd; mae rhieni'n gorfod ymdopi â
system gymhleth er mwyn hawlio cymorth gofal plant, a hynny er mwyn iddynt fod
yn barod i fynd yn ôl i’r gwaith.
“Er gwaethaf
bwriadau gorau Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg bod llawer o rieni a ddylai fod
yn gymwys i hawlio cymorth yn llithro drwy’r craciau. Mae angen i’r Llywodraeth
edrych ar ein hargymhellion ar fyrder a blaenoriaethu'r broses o lenwi'r
bylchau yn y system.”
Cafodd y Pwyllgor ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 23 Mawrth.
Bydd dadl yn cael
ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Mawrth.
Mae’r Pwyllgor yn
edrych eto ar y maes gwaith hwn gyda’i ymchwiliad
dilynol i ofal plant, a ddechreuodd yn Ionawr 2024.
Math o fusnes: Deddfwriaeth
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2021
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 460 KB
- Adroddiad PDF 2 MB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gofal plant a chyflogaeth rheini – y Cytundeb Cydweithio a chyllideb ddrafft 2022-23 – 6 Rhagfyr 2021 PDF 88 KB
- Ymateb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ynghylch gofal plant a chyflogaeth rhieni - y Cytundeb Cydweithio a chyllideb ddrafft 2022-23 – 5 Ionawr 2022 PDF 368 KB
- Gofal plant a chyflogaeth rhieni: Crynodeb o sesiynau bord gron PDF 144 KB
- Crynodeb o'r ymgysylltiad PDF 153 KB
Ymgynghoriadau
- Gofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt (Wedi ei gyflawni)