P-06-1214 Dylid gwahardd defnyddio masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth

P-06-1214 Dylid gwahardd defnyddio masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Eleanor Cartwright, ar ôl casglu cyfanswm o 207 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae angen sicrhau bod gan blant y rhyddid i ddysgu, a hynny heb iddynt orfod defnyddio masgiau yn yr amgylchedd dysgu. Mae rhai pobl sy’n hŷn na 60 oed, yn ogystal â rhai sy’n iau, yn cael trafferth clywed a deall yr hyn sy’n cael ei ddweud gan berson sy’n gwisgo masg. Bydd plant hefyd yn colli allan ar y cyfle i ddysgu sgiliau cyfathrebu hanfodol. Dylech wahardd defnyddio masgiau er mwyn atal hyn rhag digwydd.

 

pink and white bikini bottom

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yn dilyn cais y Cadeirydd i symud dyddiad cau'r ddeiseb hon ymlaen, yn barod ar gyfer ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref, ac oherwydd bod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb eisoes wedi'u rhoi ar waith, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2021