Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Cyflwynwyd y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 12 Mai 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd i’w priodoli i’r coronafeirws nad ydynt efallai’n cael eu hystyried wrth wneud rhai penderfyniadau at ddibenion ardrethu annomestig; a gwneud darpariaeth mewn perthynas ag anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau sydd wedi’u diddymu heb fynd yn fethdalwyr.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd) yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Tachwedd 2021.

 

Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2021

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 111KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021.

 

Cytunodd (PDF 42.2KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), ac I gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Tachwedd 2021.


Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 166KB) ar 17 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF 347KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 9 Rhagfyr 2021.

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (120 KB) ar 18 Tachwedd 2021. Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fel y nodir ym mharagraff 27 o'r adroddiad, i ofyn am wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (105 KB) ar 8 Chwefror 2022. Ysgrifennodd (PDF 77KB) Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog yr Economi, i ofyn am wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2021