Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro

Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro

Yn ystod y Chweched Senedd, bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn gwneud gwaith mewn perthynas â llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol.

 

Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro

Wrth bennu ei flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor i graffu ar fesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro Llywodraeth Cymru drwy gynnal sesiwn untro gyda'r Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (“yr Asesydd”), ar ôl i adroddiad blynyddol yr Asesydd gael ei gyhoeddi.

 

Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro – 2022-2023

 

Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23 (PDF 215KB ) ar 21 Medi 2023.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 294KB) ar 6 Tachwedd 2023. Ymatebodd Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (PDF 134KB) (Saesneg yn unig) ar 30 Hydref 2023.

Dadl y Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2023.

 

Casglu tystiolaeth

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol 2022-2023 Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru ar 16 Mehefin 2023.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gydag Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ei gyfarfod ar 21 Mehefin 2023.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan gynrychiolwyr o Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban. Ceir mwy o wybodaeth am y sesiynau tystiolaeth o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

 

Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro – 2021-2022

 

Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd (PDF 157KB ) ar 28 Medi 2022.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 228KB) ar 14 Tachwedd 2022. Ymatebodd Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (PDF 134KBKB) (Saesneg yn unig) ar 9 Tachwedd 2022.

Dadl y Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2022.

 

Casglu tystiolaeth

Cafodd yr Adroddiad Blynyddol 2021/2022 ei gyhoeddi ar 1 Mehefin 2022. 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Asesydd yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin 2022.

 

Clywodd y Pwyllgor tystiolaeth hefyd gan banel o arbenigwyr o'r sector amgylcheddol i gasglu eu safbwyntiau ar weithrediad y Mesurau Llywodraethu Amgylcheddol Dros Dro yng Nghymru ar 30 Mehefin 2022.

 

Dadl y Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2022.

 

Gohebiaeth

Ar 1 Gorffennaf 2022, cyn datganiad deddfwriaethol arfaethedig y Prif Weinidog, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Prif Weinidog ynghylch Bil llywodraethu amgylcheddol (PDF 210KB). Ymatebodd y Prif Weinidog (PDF 151KB) ar 18 Gorffennaf 2022.

 

Ar 21 Ebrill 2022, ysgrifennodd (PDF 119KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch gwaith Llywodraeth Cymru ar fioamrywiaeth; llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol, a Pholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Ymatebodd (PDF 343KB) y Gweinidog ar 25 Mai 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/04/2022

Dogfennau