Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a gynllun pum mlynedd

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a gynllun pum mlynedd

Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.

 

Yn ogystal ag amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.

 

Cyhoeddwyd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Craffu ar amcangyfryf ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022-23 a’i gynllun pum mlynedd ar gyfer y cyfnod rhwng 2022-23 a 2026-27, ac adroddiad blynyddol 2020-21’, a ‘Cynllun Corfforaethol i Gymru 2022/23 i 2026/27’ y Comisiwn Etholiadol.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2021

Dogfennau