Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a gynllun pum mlynedd
Bob blwyddyn,
rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r
Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb
fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.
Yn ogystal ag
amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno
cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i
gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a
refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.
Cyhoeddwyd y
Pwyllgor ei adroddiad ‘Craffu ar amcangyfryf
ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022-23 a’i gynllun pum mlynedd ar
gyfer y cyfnod rhwng 2022-23 a 2026-27, ac adroddiad blynyddol 2020-21’, a
‘Cynllun
Corfforaethol i Gymru 2022/23 i 2026/27’ y Comisiwn Etholiadol.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2021