P-06-1199 Dylid gosod Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn mesurau arbennig, a chynnal adolygiad annibynnol ar frys
P-06-1199 Dylid gosod Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn mesurau arbennig, a chynnal adolygiad annibynnol ar frys
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stephen Pearce, ar ôl casglu cyfanswm o 325
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd – a Gwasanaethau Plant yn benodol –
wedi dirywio’n llwyr, gyda nifer o staff asiantaeth yn gyfrifol amdanynt.
Disgrifiwyd arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru fel gwyngalch, a
dywedwyd wrth staff am ‘gydymffurfio’. Mae teuluoedd yn cael eu methu a'u
rhwygo'n ddarnau, mae plant yn cael eu dwyn oddi ar rieni cariadus a’r rheini
sy’n dioddef cam-drin domestig yn cael eu gorfodi, wedyn, i ddod i gysylltiad
â'r camdriniwr.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn achos un teulu, cafodd plentyn ei ddwyn oddi ar ferch a ddioddefodd
cam-drin corfforol a rhywiol erchyll gan ei chyn-bartner, yn dilyn proses yn y
Llys i Deuluoedd lle defnyddiwyd tystiolaeth ddethol i fodloni’r trothwy.
Cafodd y dioddefwr ddim llai na 9 o weithwyr cymdeithasol gwahanol mewn cyfnod
o 12 mis, a 4 mewn 3 wythnos yn dilyn genedigaeth ei phlentyn. Yn fwyaf
diweddar, fe adawodd y Gweithiwr Cymdeithasol oedd wedi bod gyda’r ddynes am
lai na 6 mis gan ddweud wrth y ddynes ‘na allai, mwyach, weithio i Wasanaethau
Plant Cyngor Caerdydd gan eu bod mewn helbul ac yn methu.’ Ni all y sefyllfa
hon barhau, ni ddylid distrywio teuluoedd oherwydd bod sefydliad, neu staff y
sefydliad hwnnw, yn methu rheoli llwythi gwaith, ac yn meddu ar agenda i ddwyn
pob achos gerbron y llys gan gynnig dim cefnogaeth ac ymyrraeth, neu weithio i
gadw teuluoedd gyda’i gilydd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor rôl Arolygiaeth Gofal Cymru wrth asesu
perfformiad awdurdodau lleol, a bod proses glir ar waith iddynt godi pryderon
yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru. Felly, cytunodd yr Aelodau i nodi a
chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021