NDM7780 Dadl Plaid Cymru - Wythnos waith pedwar diwrnod
NDM7780 Dadl Plaid Cymru - Wythnos waith pedwar diwrnod
NDM7780 Siân Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i
bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a
gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.
2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i
heriau'r chwyldro awtomeiddio.
3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen
ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer
wythnos waith pedwar diwrnod.
4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith
pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain
at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot
wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru i archwilio'r manteision i holl
weithwyr Cymru, yr economi a'r amgylchedd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2021