P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth, ar ôl casglu cyfanswm o 10,553 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae'n anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch. Eto i gyd, nid yw coedwig sy'n eu cynnwys yn cael ei gwarchod a gellir ei thorri i lawr.

 

Er bod angen trwydded torri coed er mwyn cwympo coetir, ni ellir gwrthod y trwyddedau hyn hyd yn oed os ydyn nhw’n arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwerod coch.

 

Nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, ond fe'u rheolir o dan gynlluniau sy'n para 10 mlynedd neu fwy. Nid oes yn rhaid iddyn nhw asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaethau gwiwerod coch o flwyddyn i flwyddyn.

 

Mae’n rhaid i hyn newid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae gwiwerod coch prin yn cael eu bygwth gan gyfraith cwympo o’r 1960au, sydd wedi dyddio erbyn hyn.

 

https://www.independent.co.uk/climate-change/news/red-squirrels-rare-woodland-wildlife-british-outdated-tree-felling-a8665491.html 

 

https://nation.cymru/opinion/wales-should-follow-scotlands-lead-in-protecting-the-red-squirrels-habitat/  

 

Hyd yn oed mewn coedwigoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi’u rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae'r asiantaeth yn clirio cynefin trwy gwympo coed heb asesu'r effaith ar boblogaethau gwiwerod. Ar Ynys Môn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwario £0 mewn 10 mlynedd ar fonitro gwiwerod coch. Does ganddyn nhw’r un syniad o effaith torri coed dro ar ôl tro ar boblogaethau, ac maen nhw’n parhau i gwympo cynefinoedd, ni waeth beth fo’r canlyniadau.

 

https://www.thenational.wales/news/19304998.expert-raps-nrw-felling-red-squirrel-habitat/  

 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mynd i'r afael â datgoedwigo byd-eang yn hanfodol i atal ein bioamrywiaeth rhag dirywio, ond eto i gyd mae eu rheolydd coedwigoedd yn dinistrio cynefin coedwigoedd yma, heb asesu'r effaith ar wiwerod coch.

 

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56185205.

 

brown squirrel on tree branch

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y ddadl gadarnhaol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, estynnodd longyfarchiadau i’r deisebydd, a chaeodd y ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru fabwysiadu’r dull o warchod gwiwerod coch ar Ynys Môn yn sgil yr esiampl yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 20/09/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2021