Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Etholiadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Etholiadau

Cyflwynwyd y Bil Etholiadau (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 5 Gorffennaf 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “gwneud darpariaeth ynghylch gweinyddu a chynnal etholiadau, gan gynnwys darpariaeth sydd wedi’i llunio i gryfhau uniondeb y broses etholiadol; ynghylch etholwyr tramor; ynghylch hawliau pleidleisio ac ymgeisio dinasyddion yr UE; ynghylch dynodi datganiad polisi a strategaeth ar gyfer y Comisiwn Etholiadol; ynghylch aelodaeth Pwyllgor y Llefarydd; ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag achosion troseddol; ynghylch gwybodaeth ariannol i’w darparu gan blaid wleidyddol wrth wneud cais i gofrestru; ar gyfer atal unigolyn rhag cael ei gofrestru fel plaid wleidyddol a bod yn ymgyrchydd di-blaid cydnabyddedig ar yr un pryd; ynghylch rheoleiddio gwariant at ddibenion gwleidyddol; ynghylch gwahardd troseddwyr rhag dal swyddi etholedig; ynghylch gwybodaeth i’w chynnwys mewn deunydd ymgyrchu electronig; ac at ddibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mawrth 2022

 

Ar 22 Mawrth 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 234KB).

 

Cytunodd (PDF 48.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Etholiadau (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 29 Mawrth 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Medi 2021.

 

Cytunodd (PDF 41.3KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau, ac i gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.


Ar 4 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 16 Rhagfyr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau (PDF 264KB) ar 2 Rhagfyr 2021. Ymatebodd (PDF 366KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 16 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau (PDF 140KB) ar 3 Rhagfyr 2021.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2021

Dogfennau