NDM7772 Dadl Plaid Cymru - Credyd Cynhwysol
NDM7772 Dadl Plaid Cymru - Credyd Cynhwysol
NDM7772 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn
credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng
Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.
2. Yn
cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o
deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.
3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
ymlid datganoli lles gyda’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
b)
cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys
targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
c)
cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd
cynhwysol ar bobl yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2021