NDM7771 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynediad at ddiffibrilwyr
NDM7771 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu
allan i'r ysbyty.
2.
Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu
adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10
y cant.
3.
Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi
neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod
diffibriliwr.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2021