P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol
P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Klaudia Kalinowska, ar ôl casglu cyfanswm o
112 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rhaid inni gefnogi myfyrwyr blwyddyn 10 a blwyddyn 12 y mae'r cyhoeddiad
diweddaraf ynglŷn â’r mesurau graddio a bennwyd gan Cymwysterau Cymru wedi
effeithio'n negyddol arnynt.
Fel myfyriwr blwyddyn 12 sydd wedi rhoi fy ngwaed, fy chwys a’m dagrau i
barhau â’m hastudiaethau yn ystod y cyfnod anodd hwn, rwy’n deall pa mor
ddinistriol y mae'r cyhoeddiad wedi bod yn amlinellu NA FYDD y gwaith caled
rydym wedi'i wneud ac y byddwn yn parhau i’w wneud tan ddiwedd y flwyddyn yn
cael ei gyfrif tuag at ein gradd TGAU/Safon Uwch derfynol. GWNEWCH YN WELL!!!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor yr anawsterau y mae cyrff cymwysterau
yn eu hwynebu wrth lunio eu cynlluniau asesu yn ystod pandemig - a'r effaith
enfawr y mae hyn yn ei chael ar fyfyrwyr ac athrawon mewn cyfnod pan maent
eisoes dan lawer o bwysau. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, gan fod addysg a
dysgu mewn ysgolion yn dychwelyd i'r arfer, i ddiolch i'r deisebydd – gan
ddymuno'n dda iddo yn ei astudiaethau - a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021