Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd a Gofal

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd a Gofal

Cyflwynwyd y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 6 Gorffennaf 2021.

 

Mae'r teitl hir i'r Bil yn nodi mai Bil yw "i wneud darpariaeth ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Ebrill 2022

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) (PDF 119KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 5 Ebrill 2022.

 

Cytunodd (PDF 42KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Iechyd a Gofal (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 26 Ebrill 2022.

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 140KB) ar 25 Ebrill 2022.

 

Gosododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 117KB) ar 25 Ebrill 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) (PDF 156KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 28 Ionawr 2022.

 

Cytunodd (PDF 41.8KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Iechyd a Gofal (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 267KB) ar 14 Chwefror 2022. Ymatebodd (PDF 362KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 246KB) ar 15 Chwefror 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Rhagfyr 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) (PDF 156KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 17 Rhagfyr 2021.

 

Cytunodd (PDF 41.3KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Iechyd a Gofal (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 17 Chwefror 2022.

 

Ar 25 Ionawr 2022, cytunodd (PDF 49.5KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i gyflwyno adroddiad, sef 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 267KB) ar 14 Chwefror 2022. Ymatebodd (PDF 362KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Chwefror 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 246KB) ar 15 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 1 Medi 2021.

 

Cytunodd (PDF 41.4KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal, ac i gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.

 

Yn y cyfarfod ar 28 Medi 2021, cytunodd (PDF 42.1KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 11 Tachwedd 2021.

 

Ar 4 Tachwedd, cytunodd (PDF 42.4KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn ymhellach i 16 Rhagfyr.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 331KB) ar 3 Rhagfyr 2021. Ymatebodd (PDF 7.6MB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 2 Chwefror 2022.

 

Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol osod ei adroddiad (PDF 283KB) ar 16 Rhagfyr 2021.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/09/2021

Dogfennau