P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol
P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lucy Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 347
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae brechlyn Pfizer rhag Covid-19 wedi cael ei gymeradwyo yn y DU i'w
ddefnyddio ar gyfer plant 12-16 oed. Fodd bynnag, nid yw'r brechiad yn cael ei
gynnig i blant yn y grŵp oedran hwnnw.
Mae plant sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn mwy o berygl o
fynd i'r ysbyty a marw oherwydd Covid-19 na phlant yn gyffredinol.
Rydym am i Lywodraeth Cymru gynnig y brechlyn i blant yn y grŵp oedran
hwnnw sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant ag anableddau niwroddatblygiadol mewn
perygl difrifol o fynd i'r ysbyty a marw oherwydd Covid-19. Mae'r rhain yn
cynnwys plant â pharlys yr ymennydd, syndrom Down ac anabledd dysgu difrifol. https://adc.bmj.com/content/early/2021/01/04/archdischild-2020-321225
Yn y boblogaeth gyfan, mae cyfradd marwolaethau o Covid-19 yn uwch i bobl
ag anabledd dysgu nag y mae i’r boblogaeth gyffredinol.
Ym mis Mawrth eleni, dyma a ganfu arolwg o 3,000 o deuluoedd a gynhaliwyd
gan yr elusen Contact:
Cynigiwyd brechiad rhag Covid-19 i 86 y cant o rieni â phlant anabl; fe’i
cynigiwyd i ddau o bob tri fel gofalwyr di-dâl.
Mae 70 y cant â phlant sy’n gwarchod neu sydd ag anabledd am iddynt gael
brechlyn Covid-19 pan gaiff ei drwyddedu i’w ddefnyddio ar gyfer plant.
Hoffai un o bob 10 gael mynediad at frechlyn Covid-19 heb drwydded ar
unwaith, ond o’r rhai sydd wedi ceisio, dim ond tri o bob 200 sydd wedi llwyddo
ei gael yn ddidrwydded.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd
plant 12-17 oed i gael eu brechu, a bod y camau y mae’r ddeiseb yn galw amdanynt
bellach yn cael eu cymryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a
chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
01/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021