Materion sy'n ymwneud â materion allanol- Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Materion sy'n ymwneud â materion allanol- Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Sefydlwyd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 26 Mai 2021 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â: deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder a materion allanol.

 

Gytundebau rhyngwladol nad ydynt yn ymwneud â masnach

 

O dan y ffrwd waith materion allanol, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar gytundebau rhyngwladol nad ydynt yn ymwneud â masnach.

 

Llywodraethiant y DU a’r UE


Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cynnal ymchwiliad i lywodraethiant y DU a'r UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Pwyllgor o faterion sy'n ymwneud â materion allanol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan y tab 'Cyfarfodydd Cysylltiedig'.


Gweithgaredd ymgysylltu

Cafodd y pwyllgor drafodaeth ag arbenigwyr ar y pwnc 'Cymru yn y DU: deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid’. Mae crynodeb o'r drafodaeth hon [PDF, 137KB] ynghyd â phapur briffio cefndirol [PDF 185 KB] wedi’u cyhoeddi.

 



Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/08/2021

Dogfennau