Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch Adeiladau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch Adeiladau

Cyflwynwyd y Bil Diogelwch Adeiladau (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 5 Gorffennaf 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer diogelwch pobl mewn adeiladau neu o’u hamgylch, ac mewn perthynas â safon adeiladau, diwygio Deddf Penseiri 1997, a newid y ddarpariaeth ynghylch cwynion a gyflwynir i ombwdsmon tai.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) – Mawrth 2022

 

Ar 25 Mawrth 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 121KB).

 

Cytunodd (PDF 49KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 5) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd erbyn bore 29 Mawrth 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Chwefror 2022

 

Ar 22 Chwefror 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 102KB).

 

Cytunodd (PDF 41.0KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 4) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 22 Mawrth 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 230KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 17 Mawrth 2022. Ymatebodd (PDF 478KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 24 Mawrth 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF 233KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 29 Mawrth 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 24 Mawrth 2022.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 8 Ebrill 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Ionawr 2022

 

Ar 20 Ionawr 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 187KB).

 

Cytunodd (PDF 42.3KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 17 Mawrth 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 230KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 17 Mawrth 2022. Ymatebodd (PDF 478KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 24 Mawrth 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Medi 2021

 

Ar 21 Medi 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 87.3KB).

 

Cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Tachwedd 2021.

 

Ar 4 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 16 Rhagfyr 2021.

 

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd 2021. Fodd bynnag, cafodd y sesiwn hon ei chanslo ar fyr rybudd oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld. Yn lle’r sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog ar 15 Tachwedd 2021 ac fe ymatebodd y Gweinidog ar 16 Tachwedd 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 218KB) ar 10 Rhagfyr 2021. Ymatebodd (PDF 478KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 4 Ionawr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF 598 MB) ar 15 Rhagfyr 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Gorffennaf 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 219KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 19 Gorffennaf 2021.

 

Cytunodd (PDF 39.9KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, i’r Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 218KB) ar 10 Rhagfyr 2021. Ymatebodd (PDF 478KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 4 Ionawr 2022.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2021

Dogfennau