Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoli Cymorthdaliadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoli Cymorthdaliadau
Cyflwynwyd y Bil Rheoli
Cymorthdaliadau (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 30 Mehefin 2021.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth i reoleiddio’r broses o roi
cymorthdaliadau drwy ddefnyddio adnoddau cyhoeddus; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Gwrthodwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn y
Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Ionawr 2022
Ar 6 Ionawr 2022,
gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 77KB).
Cytunodd (PDF
40.5KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 3 Mawrth 2022.
Ar 8 Chwefror 2022, cytunodd (PDF
43.4KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i gyflwyno adroddiad, sef 1
Mawrth 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
159KB) ar 24 Chwefror 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Gorffennaf 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 108KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 13
Gorffennaf 2021.
Cytunodd (PDF
40.1KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, i’r
Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.
Ar 4 Tachwedd
2021, cytunodd
(PDF 42KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 16 Rhagfyr 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
282KB) ar 7 Rhagfyr 2021. Ymatebodd
(PDF 163KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 6 Ionawr 2022.
Cymerodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
dystiolaeth ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ei gyfarfod ar 21
Hydref 2021, a gosododd ei adroddiad (PDF
195KB) ar y Memorandwm ar 9 Tachwedd 2021. Ysgrifennodd y Cadeirydd hefyd at
Weinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU ar 9 Tachwedd 2021 i
dynnu sylw at faterion a godwyd yn yr adroddiad
Gellir gweld rhagor
o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan
gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2021