Maes Awyr Caerdydd
Maes Awyr Caerdydd
Ym mis Mawrth
2016, cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad adroddiad
ar ei ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael Maes Awyr Caerdydd.
Bu Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd yn ystyried ymateb
Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad yn nhymor yr hydref 2016, a chynhaliodd
sesiynau tystiolaeth rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd.
Yn ei adroddiad gwaddol,
gwnaeth y Pwyllgor rhagflaenol argymell bod y Pwyllgor olynol yn blaenoriaethu
gwaith craffu ar berchnogaeth Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd, a'r
cymorth ariannol a gynigir iddo, yn sgil pandemig COVID-19, a’r adferiad ohono.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus sesiynau dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd a
Llywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd 2021, a mae’r Pwyllgor wedi cytuno i fonitro'r
sefyllfa hon yn rheolaidd.
Buodd y Pwyllgor
yn cynnal sesiwn dystiolaeth arall gyda Maes Awyr Caerdydd a Llywodraeth Cymru
ar 26 Mehefin 2022.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda swyddogion o Faes Awyr Caerdydd a Llywodraeth
Cymru ar 22 Mehefin 2023.
Yn dilyn hynny, ysgrifennodd y
Pwyllgor at Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd nifer o faterion ymhellach at y
sesiwn. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a
gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor.
Ar 26 Hydref, ysgrifennodd
Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor i roi gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd wedi cyhoeddi Datganiad
Ysgrifenedig ar y Genhedlaeth Nesaf o Sganwyr Diogelwch. Rhoddodd
Llywodraeth Cymru ddiweddariad chwe mis ar Faes Awyr Caerdydd ar 14 Tachwedd
2023 yn unol â'r hyn a gytunodd â’r Pwyllgor.
Bydd y sesiwn dystiolaeth nesaf
gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal ar 27 Mehefin 2024.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021
Dogfennau
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru at y Cadeirydd i roi diweddariad chwe mis - 14 Tachwedd 2023 PDF 255 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â Sganwyr Diogelwch Cenhedlaeth Nesaf (NGS) Maes Awyr Caerdydd - 26 Hydref 2023 PDF 201 KB
- Llythyr at y Cadeirydd gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - 15 Medi 2023 PDF 866 KB
- Llythyr at Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - 3 Awst 2023 PDF 145 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru i'r Cadeirydd- 6 Mai 2023 PDF 211 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru - 6 Ebrill 2023 PDF 126 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru i'r Cadeirydd - 21 Mawrth 2023 PDF 217 KB