P-06-1180 Cynyddu'r addysgu a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru

P-06-1180 Cynyddu'r addysgu a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Pearl Oshan Crumb, ar ôl casglu cyfanswm o 102 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rwy'n ceisio sicrhau bod gwybodaeth am gyffuriau ar gael yn ehangach mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan obeithio cynyddu dealltwriaeth plant Cymru o gyffuriau a'r diwylliant o'u hamgylch. Credaf y byddai'n niweidiol i blentyn beidio â gwybod am gyffuriau a’u goblygiadau posibl. Ystyriwch lofnodi'r ddeiseb hon er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn fwy gwybodus am gyffuriau, fel hyn bydd unigolion yn gallu gwneud dewisiadau gwell a mwy addysgedig. Diolch am ddarllen.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid yw faint o wybodaeth a addysgir am gyffuriau mewn ysgolion yn ddigonol. Fy mhrofiad personol yn yr ysgol oedd un diwrnod o gael gwybod am y gwahanol gyffuriau a’u heffeithiau ar iechyd. Llwyddais i ddatblygu fy ngwybodaeth am gyffuriau yn yr ysgol drwy astudio TGAU Addysg Gorfforol. Ac rwy’n dal i gredu nad yw hyn yn ddigon. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag athrawon ynghylch y pwnc hwn ond mae'n teimlo fel nad ydw i’n cyrraedd unman. Rwyf wedi gwneud y ddeiseb hon nid yn unig i annog y Gweinidogion Addysg yng Nghymru i weithredu mwy o addysg orfodol ar gyffuriau ym maes llafur ysgolion uwchradd, ond hefyd i ystyried addysgu plant ynghylch yr effeithiau niweidiol o dderbyn ‘diwylliant cyffuriau’. Pan fyddaf yn dweud hyn, rwy'n golygu, delio cyffuriau. Gallaf gydnabod yn llwyr y stigma a'r atgasedd tuag at y syniad o gynyddu'r wybodaeth am ymwybyddiaeth o gyffuriau mewn ysgolion ond, os ydych chi wedi ymweld â Chanol Dinas Caerdydd, efallai y bydd gennych ddealltwriaeth bod y defnydd o gyffuriau yno’n gyffredin iawn a dyma lle mae miloedd o blant yn mynd i gymdeithasu.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bwysigrwydd y materion a godwyd. Roedd y Pwyllgor yn croesawu cyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant penodol, a'r adnoddau a ddyrannwyd i Raglen Ysgol Heddlu Cymru, a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021