P-06-1179 Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth

P-06-1179 Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Geoff Hill, ar ôl casglu cyfanswm o 186 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

I roi hwb i dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru, peintiwch y trenau dau gerbyd fel eu bod yn edrych fel lindys. Byddai plant o Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr wrth eu boddau’n mynd ar drên y lindysyn i lan y môr. Byddai hefyd yn dod â gwen i wyneb pawb a fyddai’n eu gweld yn teithio i lawr y trac. Mae dirfawr angen hynny yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Byddai’n ffordd hawdd o ddenu twristiaeth a byddai’n cael sylw yn y wasg genedlaethol a rhyngwladol. Byddai’n bosibl trefnu cystadleuaeth i ddewis enw pob trên, a gellid eu peintio mewn lliwiau gwahanol.

 

Train tracks leading to a sunset

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw gamau pellach, diolchodd i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyfor Meirionnydd
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021