Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Sefydlwyd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; ac iechyd, gwasanaethau gofal, a gofal cymdeithasol i’r graddau y maent yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Rhwng nawr a'r gaeaf, byddwn yn dechrau ystyried beth ddylai ein blaenoriaethau fod ar gyfer y Senedd hon.


Mae mwy o fanylion am ein cylch gorchwyl ar gael (PDF 95KB) os ydych chi eisiau darllen mwy.

 

Er mwyn helpu i lywio ein gwaith cynllunio strategol a’n blaenraglen waith, gofynnwyd am eich barn chi ynghylch beth ddylai fod yn brif flaenoriaethau i ni yn y Chweched Senedd (2021-2026).

 

Mae'r holl ymatebion ar gael ar  dudalen yr ymgynghoriad.

Un o’n prif flaenoriaethau yw sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn ein gwaith. Cynhaliwyd gweithgareddau gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref 2021 i'n helpu i ddeall eu blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Deallasom y byddai gan blant a phobl ifanc amrywiaeth o safbwyntiau.

 

Mae crynodeb o'n canfyddiadau (PDF 2MB) o'r gwaith ymgysylltu hwn bellach ar gael. Hoffem ddiolch i'r holl blant a phobl ifanc hynny a gyfrannodd.

 

Ar 16 Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor ddau fersiwn o'i Strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd: fersiwn syml (PDF 66KB) a fersiwn manwl (PDF 48KB).

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/07/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau