Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar

Cyflwynwyd Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 2 Mawrth 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer Sefydliad yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a dibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2021.

 

Gwaith craffu yn y Chweched Senedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 139KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 24 Tachwedd 2021.

 

Cytunodd (PDF 42.1KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 2 Rhagfyr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 192KB) ar 6 Rhagfyr 2021.


Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Gorffennaf 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 140KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Gorffennaf 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 21 Hydref 2021. (PDF 44.1KB)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 258KB) ar 21 Hydref 2021.

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 116KB) ar 8 Hydref 2021. Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at Weinidog yr Economi ar 30 Medi 2021, a chafwyd ymateb (262 KB) ar 9 Tachwedd 2021

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021