P-06-1176 Y Siarter Urddas i ysbrydoli pob dinesydd i ddod yn llysgennad dros Gymru

P-06-1176 Y Siarter Urddas i ysbrydoli pob dinesydd i ddod yn llysgennad dros Gymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Neil Jones Coles, ar ôl casglu cyfanswm o 149 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno Siarter Urddas Cymru. Diben hyn fyddai cyflwyno Cod Ymddygiad Moesol a Moesegol ac, felly, ragoriaeth ar gyfer dinasyddiaeth gyffredin a phroffesiynol, er mwyn annog ac ysbrydoli pob dinesydd i fod yn fodel rôl ac yn llysgennad dros Gymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Dylid cael mesurau newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â materion Cymreig ynghylch moesoldeb a safonau moesegol ledled Cymru er mwyn i bob un ohonom gyrraedd lefelau rhagoriaeth a dod yn ddinasyddion atebol a chydwybodol ac yn fodelau rôl i bobl ifanc Cymru yn y dyfodol, yn ogystal â llysgenhadon yng nghymuned cenhedloedd y byd. Dyma'r mudiad atebol cyntaf yn hanes modern Cymru i bennu'r safonau angenrheidiol er mwyn cyrraedd lefelau rhagoriaeth gymdeithasol a moesegol a dod yn bobl sy'n cyrraedd safon llysgenhadon y byd.

 

Bydd y Siarter Urddas yn fodel rhagoriaeth annatod ac yn eicon o fandad gwedduster er mwyn ysbrydoli oedolion, eu plant, pobl ifanc a phlant eu plant i ddisgwyl mwy, yn y ffordd Gymreig. Siarter gymdeithasol yn arwain, yn grymuso ac yn goleuo safonau rhagoriaeth newydd o ran y ffordd rydym yn siarad ac yn ymddwyn ymhlith ein gilydd.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ymateb gan Lywodraeth Cymru, i ddiolch i'r deisebydd am godi syniad diddorol a phwysig, a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021