P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael

P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lorraine Robinson, ar ôl casglu cyfanswm o 52 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym wedi cael un cyfnod atal byr eisoes yn ystod hanner tymor ac nid oedd staff addysgu yng Nghymru yn gallu mynd i unrhyw le na gwneud dim byd. Nid oes modd i ni drefnu wythnos neu ddwy i ffwrdd o'r gwaith yn ôl ein dymuniad, mae'n rhaid iddynt fod yn ystod cyfnod gwyliau'r ysgol yn unig. Nid yw ond yn deg bod staff addysgu a'r plant yn gallu mynd i fwynhau eu hoe am eu holl waith caled yn ystod y tymor, yn union fel y gallem pe byddem yn cael dewis gwyliau. Rhowch y rhyddid i blant, staff, a rhieni fwynhau amser gwerthfawr gyda'i gilydd yn gwneud yr hyn y maent am ei wneud.

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dyffryn Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021