NDM7767 Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim
NDM7767 Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim
NDM7767 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd
hon:
1. Yn nodi cyhoeddi
sawl adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru
ar ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim a graddau tlodi yng Nghymru.
2. Yn nodi bod llythyr
a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd
gan 10 sefydliad gwrthdlodi yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud
ehangu prydau ysgol am ddim yn flaenoriaeth.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) ddiwygio'r meini
prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn
teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys;
b) ymestyn hawliau
prydau ysgol am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid
cyhoeddus ar gael iddynt;
c) cyhoeddi llinell
amser ar gyfer gweithredu prydau ysgol am ddim i bawb fesul cam er mwyn
gwarantu cinio ysgol maethlon o ffynonellau lleol i bob disgybl ysgol.
Sefydliad
Bevan: Expanding the provision of free school meals in Wales (Saesneg yn unig)
Sefydliad
Bevan: Expanding the eligibility criteria for free school meals (Saesneg yn unig)
Sefydliad
Bevan: Snapshot of poverty in spring 2021 (Saesneg yn unig)
Mae copi o'r llythyr a
gaiff ei grybwyll ym mhwynt 2 o'r cynnig wedi cael ei anfon i Aelodau o'r
Senedd.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru:
a) wedi cychwyn
adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn unol â’r
ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda’r bwriad o ymestyn yr hawl, mae data
dros dro y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos
bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, cynnydd o bron
i 18,000 ers CYBLD 2020;
b) wedi darparu £60
miliwn ychwanegol ers dechrau’r pandemig i ddarparu prydau ysgol am ddim
ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 ac wedi cael cydnabyddiaeth gan y
Sefydliad Polisi Addysg am ei chymorth i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau
ysgol am ddim yn ystod y pandemig;
c) yn mynd i ddarparu
£23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol
ym mlwyddyn ariannol 2021-22, gan sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf hael yn y
DU; ac
d) yn gweithio gyda
phartneriaid i ddarparu’r unig gynllun cyffredinol i roi brecwast am ddim mewn
ysgolion cynradd yn y DU.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym
mhwynt 3, dileu is-bwynt (c).
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2021