NDM7713 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn

NDM7713 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn

NDM7713 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;

b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;

c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;

d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac

e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (Saesneg yn unig)  

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2021