NDM7704 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

NDM7704 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

NDM7704 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.

3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu nawdd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.

4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:

a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;

b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;

c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a

d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.

Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021

Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

Cyd-gyflwynwyr

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/06/2021